Rydych chi yma : Hafan » News » Housing organisations join together

Sefydliadau Tai yn ymuno i helpu teuluoedd digartref yn Ne Cymru

Housing organisations join together Ar ddydd Iau 21 Mehefin, ymunodd dau sefydliad yn y sector tai yng Nghymru mewn ymgais i gynyddu nifer y tai sydd ar gael i deuluoedd digartref yn ne Cymru.

Mae Gr?p Hendre, un o brif ddarparwyr tai cymdeithasol de Cymru, wedi arwyddo cytundeb â Tai Sylfaen (FHTS), sy’n arbenigo mewn darparu llety dros dro, gan groesawu’r sefydliad yn aelod newydd o’r Gr?p.

Yn ogystal â chaniatáu i Hendre weithredu mewn ardal ddaearyddol ehangach, daw’r newid yma ag arbenigedd arall i mewn i’r gr?p.  Er bod ei aelodau presennol, Tai Hafod, Tai Rhondda a Cymorth Hafod yn darparu tai, gofal a chymorth parhaol at anghenion cyffredinol, mae Tai Sylfaen yn defnyddio adeiladau gwag sy’n eiddo i awdurdodau lleol, landlordiaid preifat a chymdeithasau tai i gartrefu teuluoedd digartref, gan gynnig dewis ymarferol i awdurdodau lleol yn lle llety gwely a brecwast.

Dywedodd Sian Davies, Cadeirydd FHTS, y byddai’r bartneriaeth newydd yn dwyn manteision gwirioneddol i’w tenantiaid.

"Rydym yn arbenigo mewn darparu’r math o lety mae pobl ei eisiau a’i angen – cartrefi cyffredin mewn strydoedd cyffredin – ond fel sefydliad unigol, annibynnol, mae cyfyngiadau amlwg i’r hyn y gallwn ei wneud.

"Gallwn arbed costau trwy ymuno â gr?p tai cofrestredig mwy o faint, a bydd hyn yn rhoi cyfle i ni ddod yn llawer mwy effeithlon, darparu gwasanaeth o ansawdd sydd hyd yn oed yn well ac ehangu’n sylweddol.  Gobeithiwn ddyblu ein gweithgaredd o fewn y tair blynedd nesaf gan ein galluogi i helpu 100 o deuluoedd eraill sy’n cael anawsterau’n ymwneud â llety ledled de Cymru."

Dywedodd Elgar Lewis, Cadeirydd Gr?p Hendre, ei fod yn falch iawn o gael ymuno ag FHTS.

"Ers sefydlu strwythur Gr?p yn 2002, ein gweledigaeth bob amser oedd hyrwyddo effeithlonrwydd o fewn y sector trwy rannu ein gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau er lles pawb.  Mae’r digwyddiad yma’n arbennig o gyffrous gan y bydd yn ein galluogi i ddechrau gweithredu mewn marchnad arbenigol nad ydym wedi ei harchwilio’n fanwl hyd nawr.  Edrychwn ymlaen at ychwanegu’r gwasanaeth i’r hyn a gynigir gan Gr?p Hendre a helpu mwy fyth o bobl gyda’u hanghenion tai ledled de Cymru."

Ffurfiwyd Gr?p Hendre yn 2002 fel sefydliad dielw i ddarparu cymorth o safbwynt gwasanaethau strategol a chorfforaethol i’r sefydliadau sy’n aelodau ohono, gan ryddhau eu hamser i’w galluogi i ganolbwyntio ar eu swyddogaethau fel darparwyr tai cymdeithasol. Yn ogystal â pharhau i ddarparu cymorth i aelodau’r Gr?p, bellach mae nifer o gleientiaid allanol o sbectrwm eang o sectorau busnes hefyd yn elwa o’r gwasanaethau corfforaethol y mae Hendre’n eu cynnig.

Bydd y bartneriaeth newydd hon yn cynyddu stoc dai Gr?p Hendre i dros 6,200 uned a’i drosiant i dros £32 miliwn.