Tai â Chymorth
Mae chwe gwerth craidd sy'n sail i athroniaeth Gofal Hafod wrth ddarparu ei wasanaeth tai â chymorth, sef:
- Dewis
- Urddas
- Preifatrwydd
- Hawliau
- Anibyniaeth
- Boddhad
Mae gan bob un o denantiaid Gofal Hafod gynllun cefnogaeth unigol sy'n rhoi nodau ac amcanion y gefnogaeth ac yn egluro rôl y tenant a'r gweithiwr wrth eu cyflawni.
Mae Cymdeithas Gofal Hafod Cyfyngedig yn darparu amrediad eang o dai gyda staff a thai â chymorth ledled De Cymru.
Gweithiwn gyda nifer o bartneriaid o'r sector statudol ac o'r sector gwirfoddol.
Cefnogwn bobl gyda phroblemau iechyd meddwl cymhleth a pharhaol, pobl gydag anawsterau dysgu, pobl gydag anableddau corfforol, pobl h?n, oedolion digartref, pobl ifanc ddigartref 16/17 oed y mae camddefnyddio sylweddau yn effeitho arnynt.
Ni fwriedir fel arfer i Dai â Chymorth Gofal Hafod roi "cartref am oes". Mae disgwyliad y bydd tenantiaid yn symud ymlaen i lety mwy annibynnol pan fedrant.





