Heol Casnewydd, Y Rhath
Mae'r prosiect yn darparu llety gyda chefnogaeth i 5 o bobl sydd wedi profi afiechyd meddwl sylweddol a hir.
Y Prosiect
Mae t? Heol Canewydd o fewn pellter cerdded rhwydd i Ganol Dinas Caerdydd.
Mae llawer o gyfleusterau yn ymyl at y t? yn cynnwys Swyddfa'r Post, llyfrgell, meddygfa ac amrywiaeth o siopau.
Anogir tenantiaid yn Heol Casnewydd i gymryd rhan lawn a gweithgar yn y gymuned leol.
Bydd gan bob tenant gynllun cymorth unigol a drafodir gyda'r staff cymorth.
Dylai darpar denanantiaid wybod y disgwylid iddynt gymryd rhan lawn yn y gweithgareddau a gytunwyd yn eu cynllun cymorth.
Staff
Mae holl staff cymorth Gofal Hafod wedi derbyn hyfforddiant helaeth. Arolygir y tîm staff gan Arweinydd Tîm a seilir yn lleol.
Symud Ymlaen
Ni fwriedir i Heol Casnewydd fod yn ‘gartref am oes'. Mae disgwyliad y bydd tenantiaid yn symud ymlaen i lety mwy annibynnol pan fedrant.





