Rydych chi yma : Hafan » Our Services » Specialists in Support » Supported Housing » Cardiff » Cowbridge Road West

Heol y Bontfaen, Trelai

Mae'r prosiect yn darparu llety gyda chefnogaeth i 5 o bobl sydd wedi profi afiechyd meddwl.

Y Prosiect

Mae prosiect Heol y Bontfaen yn ardal Trelai Caerdydd.

Mae Trelai yn gymuned amlddiwylliannol sefydledig o fewn pellter cerdded o ganol Dinas Caerdydd. Mae llawer o gyfleusterau yn agos at y t? yn cynnwys Swyddfa'r Post, llyfrgell, meddygfa a chanolfan siopa.

Anogir tenantiaid Heol y Bontfaen i gymryd rhan lawn a gweithgar yn y gymuned leol.

Bydd gan bob tenant gynllun cymorth unigol a drafodir gyda'r staff cymorth.

Dylai darpar denanantiaid wybod y disgwylid iddynt gymryd rhan lawn yn y gweithgareddau a gytunwyd yn eu cynllun cymorth.

Staff

Mae holl staff cymorth Gofal Hafod wedi derbyn hyfforddiant helaeth.

Arolygir y tîm staff gan Arweinydd Tîm a seilir yn lleol.

Symud Ymlaen

Ni fwriedir i Heol y Bontfaen fod yn ‘gartref am oes'. Mae disgwyliad y bydd tenantiaid yn symud ymlaen i lety mwy annibynnol pan fedrant.