Parc Hafod, yr Eglwys Newydd
Mae'r prosiect yn darparu cefnogaeth 24-awr ar gyfer 28 o bobl sydd wedi profi problemau iechyd meddwl parhaol.
Y Prosiect
Mae'r prosiect mewn lleoliad dymunol a thawel yn yr Eglwys Newydd, yn gyfleus at y siopau, eglwysi ac ysbyty. Mae canol y ddinas o fewn taith gyfleus ar fws.
Caiff tenantiaid Parc Hafod eu hannog i gymryd rhan weithgar yn y gymuned leol. Cynigir cefnogaeth i denantiaid wrth gyrchu addysg bellach a/neu waith cysgodol, lle'n briodol.
Mae golchfa ganolog yn y prosiect a chaiff tenantiaid eu cefnogi wrth olchi, glanhau a choginio ar eu cyfer eu hunain.
Mae gan bob tenant gynllun cymorth unigol a chaiff hyn ei drafod gyda phob tenant. Mae gweithiwr cymorth yn y prosiect i werthuso'r cynlluniau hyn. Gall y gweithiwr hwn drefnu mynediad i wasanaethau eraill pan fo angen.
Staff
Mae holl staff cymorth Gofal Hafod wedi drebyn triniaeth helaeth.
Symud Ymlaen
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o brosiectau eraill, gall Parc Hafod roi ‘cartref am oes'. Nid oes disgwyliad y bydd preswylwyr yn symud ymlaen i lety mwy annibynnol, er yr anogir pob tenant i gyflawni eu potensial llawn a thrafodir ‘symud ymlaen'.
Mae Cymdeithas Gofal Hafod yn annog atgyfeiriadau gan bob adran o'r Gymuned.
Croesewir sylwadau am y gwasanaeth hwn ac mae gweithdrefn ar gyfer cwynion, canmoliaeth ac ymholiadau.





