Stryd Gilbert, Y Barri
Mae'r prosiect yn darparu llety hunan-gynwysedig gyda chymorth i 4 o bobl sydd wedi cael problemau gyda chyffuriau neu alcohol neu afiechyd meddwl.
Y Prosiect
Mae fflatiau Stryd Gilbert yn ardal Tregatwg y Barri ym Mro Morgannwg.
Mae Tregatwg yn gymuned amlddiwylliannol sefydledig sy'n cynnwys llawer o gyfleusterau lleol megis meddygfa, Swyddfa'r Post ac amrywiaeth o siopau. Mae cludiant cyhoeddus o fewn cyrraedd rhwydd.
Anogir tenantiaid yn Stryd Gilbert i gymryd rhan lawn a gweithgar yn y gymuned leol.
Bydd gan bob tenant gynllun cymorth unigol a drafodir gyda'r staff cymorth.
Dylai darpar denanantiaid wybod y disgwylid iddynt gymryd rhan lawn yn y gweithgareddau a gytunwyd yn eu cynllun cymorth.
Staff
Mae holl staff cymorth Gofal Hafod wedi derbyn hyfforddiant helaeth. Arolygir y tîm staff gan Arweinydd Tîm a seilir yn lleol.
Symud Ymlaen
Ni fwriedir i Stryd Gilbert fod yn ‘gartref am oes'. Mae disgwyliad y bydd tenantiaid yn symud ymlaen i lety mwy annibynnol pan fedrant.





