Heol Merthyr, Pontypridd
Mae'r prosiect yn darparu llety gyda chefnogaeth i 5 o bobl sydd wedi profi afiechyd meddwl.
Y Prosiect
Mae t? Heol Merthyr o fewn pellter cerdded i dref farchnad hanesyddol Pontypridd.
Mae trafnidiaeth leol ar gael yn rhwydd, mae arosfan bws yn agos at y t? ac mae gorsaf reilffordd yng nghanol y dref.
Anogir tenantiaid yn Heol Merthyr i gymryd rhan lawn a gweithgar yn y gymuned leol.
Bydd gan bob tenant gynllun cymorth unigol a drafodir gyda'r staff cymorth.
Dylai darpar denanantiaid wybod y disgwylid iddynt gymryd rhan lawn yn y gweithgareddau a gytunwyd yn eu cynllun cymorth.
Staff
Mae holl staff cymorth Gofal Hafod wedi derbyn hyfforddiant helaeth.
Arolygir y tîm staff gan Arweinydd Tîm a seilir yn lleol.
Symud Ymlaen
Ni fwriedir i Heol Merthyr fod yn ‘gartref am oes'. Mae disgwyliad y bydd tenantiaid yn symud ymlaen i lety mwy annibynnol pan fedrant.





