Stryd Llewelyn, Aberdar
Mae'r prosiect yn darparu llety gyda chefnogaeth i 4 o bobl sydd wedi profi afiechyd meddwl.
Y Prosiect
Mae t? Stryd Llewelyn mhentref Trecynon yng Nghwm Cynon.
Mae Trecynon yn gymuned sefydledig o fewn taith fws fer i ganol tref Aberdar. Mae llawer o gyfleusterau yn agos i'r t? yn cynnwys Swyddfa'r Post, llyfrgell, meddygfa a rhai siopau.
Mae'r t? o fewn pellter cerdded rhwydd i ganol y dref a'i chyfleusterau.
Anogir tenantiaid yn Stryd Llewellyn i gymryd rhan lawn a gweithgar yn y gymuned leol.
Bydd gan bob tenant gynllun cymorth unigol a drafodir gyda'r staff cymorth.
Dylai darpar denanantiaid wybod y disgwylid iddynt gymryd rhan lawn yn y gweithgareddau a gytunwyd yn eu cynllun cymorth.
Staff
Mae holl staff cymorth Gofal Hafod wedi derbyn hyfforddiant helaeth.
Arolygir y tîm staff gan Arweinydd Tîm a seilir yn lleol.
Symud Ymlaen
Ni fwriedir i Stryd Llewellyn fod yn ‘gartref am oes'. Mae disgwyliad y bydd tenantiaid yn symud ymlaen i lety mwy annibynnol pan fedrant.





